CHTV – Teledu Tai Cymunedol

Cylchgrawn yw Community Housing TV, a gyhoeddir gan Tantrwm, ar gyfer sefydliadau tai yn y sector cyhoeddus.

Mae’r cylchgrawn yn cynnwys awgrymiadau ac enghreifftiau go iawn o’r ffordd y mae fideo yn cael ei ddefnyddio ym marchnad dai’r sector cyhoeddus. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf mewn pryd ar gyfer cynhadledd flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru a’i ddosbarthu i bron i 300 o gynrychiolwyr, ymwelwyr a stondinwyr.

Os ydych yn defnyddio fideo yn eich prosiect tai cymunedol ac yr hoffech gael erthygl nodwedd yn y rhifyn nesaf, cysylltwch ag Andrew Chainey.

Y nod yw cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, os cawn ymateb da yna bydd rhifynnau ychwanegol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynnwys erthyglau ar ddefnyddiau arloesol o fideo, boed yn animeiddiad 3d, VR, newyddiaduraeth dinasyddion neu rywbeth newydd. Os oes gennych chi stori wych yna peidiwch â’i chadw i chi’ch hun, rhannwch hi gyda gweithwyr proffesiynol yn eich maes.

Nid yw’r cylchgrawn yn gyfyngedig i Gymru ac fe’i hanfonir at weithwyr proffesiynol allweddol yn y sector tai ledled y DU (ac ychydig i’r Dwyrain Canol).

Os oes gennych chi gynnyrch neu wasanaeth arbenigol sy’n cyd-fynd â fideo ac yr hoffech gael darn hysbysebu, yna cysylltwch â ni. Bydd 6 tudalen ddwbl ar gael yn y rhifyn nesaf ar sail y cyntaf i’r felin @ £400 am bob taeniad dwbl. Bydd 2000 o gopïau yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu.

Os wnaethoch chi fwynhau’r cylchgrawn, rhowch wybod i ni. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer erthyglau yn y dyfodol, anfonwch neges atom.

Andrew Chainey

Golygydd

Tantrwm-Digital-Media-Housing-Brochure-2018
Cliciwch i Gweld
Scroll to Top

Let's talk

Skip to content