I dyfynnu Dylan Thomas...
 “ I ddechrau ar y dechrau ” – Y peth cyntaf i chi ei wneud mewn cynhyrchiad fideo creadigol yw cael briff cleient.
Gan ddechrau gydag amcanion clir mae’n golygu ein bod yn gwybod yn union beth yw eich gweledigaeth. Gallwn wedyn droi eich gweledigaeth yn realiti! Os na chyflwynir gofynion penodol, gall hyn arwain at dreulio mwy o amser ac arian ar brosiect.Â
Y peth pwysicaf i ganolbwyntio arno yn fyr yw’r prif negeseuon yr ydych am eu gweld yn eich ffilm. Bydd mapio’r rhain yn glir yn ein galluogi i greu fideo gydlynol a diddorol, wedi’i theilwra’n benodol i anghenion eich sefydliad.
Gallwch benderfynu ar yr arddull fideo rydych chi’n chwilio amdano, neu ofyn i ni am ein hawgrymiadau. Efallai y bydd angen rhywbeth corfforaethol a slic neu efallai rhywbeth ychydig yn ddoniol. Mae gan Tantrwm brofiad cynhyrchu fideo dros 15 mlynedd, o fewn llu o ddiwydiannau,sy’n ein galluogi i wneud fideos o unrhyw arddull.
Mae’r briff yn rhan hanfodol o gael eich ffilm yn union iawn i chi. Pan fyddwch yn treulio amser yn ysgrifennu briff da, byddwch chi’n treulio llai o amser ac arian yn ddiweddarach ar geisio cael pethau’n iawn. Mae hyn yn ein galluogi i wneud eich fideo ar-lein neu all-lein mor gyflym â phosib, a heb orfod cadw tapio ar eich cyllideb!