Ar gyfer swyddfa gymharol fach, mae yna lawer o bethau cyffrous ac anhygoel yn digwydd yn Swyddfa Tantrwm trwy'r amser.
Yn aml, gall y swyddfa fod llawn technoleg , tripods, camerâu. Os gallech enwi e, mae’n debyg y bydd yn barod i’w ddefnyddio ar gyfer sesiwn ffrydio fyw neu cynhyrchu fideo . Mae rhai dyddiau’n brysur gyda phobl yn dod i mewn ac allan o’r swyddfa ar gyfer cyfarfodydd briffio prosiectau neu sgwrs cyfeillgar . Yn nodweddiadol, dyma’r dyddiau y mae’r bagiau te yn dechrau diflannu, mae’r pot coffi yn gyson yn cael ei defnyddio ac mae’r pecynnau bisgedi yn dechrau gwagio.
Y dyddiau eraill, mae’r criw allan yn darparu atebion fideo creadigol o gwmpas y wlad a dyma pryd y gall y swyddfa ymddangos yn ddistaw a dawel, gyda dim ond tap y bysellfwrdd, y ffôn yn ffonio ac ychydig o spotify yn digwydd yn y cefndir!
Â
Yr hyn yr ydym gael ar draws yw bod diwrnod yn Tantrwm bob amser yn wahanol, a dyna’r hyn yr ydym yn ei garu. Mae’n cadw pawb ar eu traed yn meddwl yn greadigol ac yn gynhyrchiol. Yn y geiriau doeth o Chainey, mae’n bwysig bod cadw pethau’n gyffrous.
Cysylltwch â ni am sgwrs am sut y gallwn ni chwistrellu ychydig o Tantrwm i’ch sefydliad!