Ydych erioed wedi cael adroddiad blynyddol ar eich desg neu’ch drws? Swm anhygoel o dudalennau. Gormod i’w dreulio yn gyfan. ‘Da ni’n gwybod sut ‘da chi’n teimlo! Rydych chi’n ei roi i’r ochr gan feddwl y byddwch chi’n darllen yr adroddiad hyfryd a sgleiniog pan gewch chi gyfle, efallai hyd yn oed ei adael yn y toiled ar gyfer eich eiliadau tawel.
Ydych chi’n un o’r gyflawnwyr o’r amharch amgylcheddol hwn? A ydych chi’n awdur y lyfryn tew blynyddol? Ydych chi’n argraffu cannoedd o gopïau, miloedd hyd yn oed? Yn waeth, gellir dyblu’r nifer os ydyn nhw’n ddwyieithog. Yn aml, mae’r adroddiadau hyn yn ddyletswyddau ddeddfwriaethol neu gorfforaethol. Yn wir, na fydd y mwyafrif o’r bobl sy’n derbyn yr adroddiad byth yn mynd heibio’r dudalennau cyntaf. Os ydych chi’n lwcus efallai y bydd rhai’n fflicio drwodd ac edrych ar y lluniau a’r graffiau tlws gynhwysol.
Dros y blynyddoedd mae fy nhîm wedi cymryd adroddiadau blynyddol cymhleth, traethodau hir, cyflwyniadau, ac ati, a’u cyddwyso i fideos byr treuliadwy a hawdd i’w deall. Mae’r ffilmiau hyn yn cyfleu’ch gwybodaeth yn weledol, yn gyflym, yn amgylcheddol ac yn rhyfeddol o gost-effeithiol. Gellir hefyd eu haddasu’n hawdd i sawl iaith a’u newid i weddu i’ch gynulleidfa yn gyflymach ac yn haws nag argraffu.
Meddyliwch am eich cynulleidfa yn gyntaf.
Rhaid i chi adnabod eich cynulleidfa. Dadansoddwch eu demograffig, eu lefel o allu, yr iaith y maent yn debygol o’i defnyddio. Yn rhy aml o lawer, gwelwn awdurdod lleol neu gymdeithas dai yn cyfathrebu â defnyddwyr ei wasanaethau mewn naws ac iaith sy’n ymddieithrio ar unwaith i’w cynulleidfa arfaethedig. Gall hyn fod yn arfer safonol lle mae angen cynnal ymdeimlad o “ni a nhw”. Ond mae’r byd wedi newid. Disgwylir didwylledd, tryloywder a chyfathrebu nawr.Symleiddio
Yr hiraf a mwy cymhleth y mae unrhyw pwnc, y mwyaf y bydd angen i chi symleiddio’r cynnwys. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddal ati i ddadelfennu’r wybodaeth yn ddarnau llai a llai. Dyma sut mae peirianwyr yn edrych ar bethau. Rhannwch bethau yn ddarnau bach. Ar y cyfan gall fod yn gymhleth, ond mae’n hawdd treulio darnau llai o ddata, neu negeseuon. Os byddwch chi’n dechrau gyda deunydd cymhleth, byddwch chi’n colli’ch cynulleidfa. Efallai y bydd yn rhaid i chi atgoffa pobl o bynciau maen nhw eisoes yn ymwybodol ohonyn nhw. Felly, gall cynnwys nygets bach o wybodaeth wneud dealltwriaeth yn haws ac felly’n fwy tebygol o suddo i mewn. Defnyddiwch yr offerynnau sydd ar gael. Mae’r Sgôr Darllen Flesch yn offeryn gwych bydd hynny’n eich helpu i gadw adroddiadau’n ddealladwy. Mae rhai sefydliadau yn gofyn am adroddiadau sydd yn gyson uwch na sgôr o 80. Os oes gennych safle WordPress ar y we, fydd y Yoast Plugin yn gael y Sgôr Flesch wedi’i ymgorffori.Ailadrodd
Yn union fel y newyddion am 10 y gloch. Mae’r gohebydd yn dweud wrthych ar y dechrau beth fydd y bwletin yn ei gynnwys. Yna, maen nhw’n darllen y newyddion, ac yn olaf mae’r gohebydd yn crynhoi’r hyn a ddywedasant wrthych. Mae ailadrodd yn galluogi pobl i gofio. Mae angen i chi ailadrodd yn y ffordd iawn. Bob tro rydych chi’n ailadrodd mae angen i chi ganolbwyntio ar y dysgwyr. Mae ysgrifennu cynnwys ar sleid ac yna ei ddarllen yn uniongyrchol yn gwneud dysgu’n anoddach. Mae’r ddwy neges ochr yn ochr yn gwneud canolbwyntio’n galetach. Yn lle hynny, dangoswch darlun neu graffig perthnasol a’i gyflwyno’n wahanol neu wedi’i hanimeiddio. Ni all deunydd printiedig ddangos fideo, na chwarae sain, ond gall PDF rhyngweithiol gwneud hwn.Adrodd straeon sy’n cysylltu ac yn ymuno
Mae creu straeon sydd yn gynnwys naratif a chysylltiad cryf rhwng elfennau yn galluogi ein hymennydd i gadw lot o wybodaeth. Mae’r daith neu llwybr y stori yn helpu gyda chadw’n gwybyddol. Os yw’r cyfatebiaethau yn ein stori yn gyfarwydd i ni yna mae’n haws cadw’r wybodaeth. Felly, ceisiwch ddod o hyd i ffordd i ymuno â’r neges rydych chi am ei chyfleu â delweddau llafar a darluniadol cyfarwydd a syml. Defnyddiwch trosiadau! Y ffordd orau i gysylltu yw i ddefnyddio emosiwn. Os gallwn rhoi gyffro i emosiynau pobl yna byddant yn cofio, cysylltu ac yn ychwanegu mwy o werth i’r hyn yr ydym yn ceisio’i gyfleu, yn fwy felly os yw emosiwn pwerus wedi’i droi.Gadael Bylchau
Mae gofyn cwestiynau, gofyn i bobl feddwl a darparu lle iddynt fyfyrio, yn galluogi cynulleidfa i wreiddio a cofio negeseuon allweddol. Mewn adroddiad ysgrifenedig gallai hyn olygu ymarfer, tudalen wag, ardal dwdl, neu holiadur. Mewn ffilm efallai y byddwch chi’n gofyn i’ch cynulleidfa oedi a throi at gydweithiwr am drafodaeth, neu hyd yn oed oedi a meddwl am yr hyn sydd newydd gael ei drosglwyddo. Mae yna lawer o offerynnau ar-lein a all ddod ag adroddiadau yn fyw. Gemau, cwisiau, sain, hyd yn oed rhith-realiti (VR). Rydyn ni yn yr 21ain ganrif, a ddylwn cyflwyno’r adroddiad ysgrifenedig 100 tudalen i’r bin ailgylchu, o blaid PDF rhygnweithiol a hwyl! Pan fydd Tantrwm yn cael y dasg o drawsnewid adroddiad i ffilm, rydym bob amser yn ystyried y bwyntiau uchod. Mae un peth yn sicr; mae ffilmiau’n cael eu gwylio mwy na’r adroddiadau’n cael eu darllen. Neu yn bwysicach fyth, mae adroddiadau’n cael eu daflu i’r sbwriel yn llawer cyflymach na bod fideos yn cael eu dileu o Youtube. Mae ganddyn nhw hefyd y gallu i gyfleu emosiynau na all adroddiad blynyddol arferol eu gwneud. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cysylltu â’ch cynulleidfa. Peidiwch anghofio:- Meddwl am eich Gynylleidfa
- Symleiddio
- Ailadrodd
- Adrodd Straeon Diddorol
- Gadael Bylchiau