Roeddem ni wrth ein bodd pan wnaeth asiantaeth greadigol yn LlundainForster cysylltu â ni i weithio gyda nhw ar animeiddiad ar gyfer yr elusen ganserThe Eve Appeal.
Mae’r ‘The Eve appeal’ yn codi arian i atal y pedwar prif ganser sy’n effeithio ar fenywod gyda’u hymgyrch 4C. Fe wnaethom greu fideo dau funud a hanner a oedd yn esbonio’r materion ac yn apelio am gymorth. Dyluniwyd y fideo i ategu brand a hunaniaeth weledol yr elusen a bydd yn cael ei ddefnyddio yn eu ac ar eu gwefan.
Mae hwn yn brosiect yr ydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono ac rydym yn gobeithio cael y cyfle i weithio ar yr ymgyrch 4C eto yn y dyfodol. Nid dyma’r tro cyntaf i ni weithio gyda Forster, buom yn gweithio gyda nhw ar brosiectau ar gyferGIG a’r Archifau Cenedlaethol. Rydym o’r farn ei bod yn wych bod busnesau bach yn Ne Cymru yn cael sylw gan asiantaethau creadigol yn Llundain a theimlwn ei fod yn siarad cyfrolau am ansawdd ein gwaith trwy ein dewis ni, yn hytrach nag un o’r miloedd o fusnesau sydd wedi’u lleoli yn Llundain.
Os hoffech weld sut y gallwn ni helpu’ch prosiectau / ymgyrchoedd, cysylltwch â ni.