Gall fideo ar gyfer tendrau wneud cysylltiad emosiynol â gwneuthurwyr penderfyniadau,gan anadlu bywyd mewn i geisiadau am arian sy’n aml yn cael eu dominyddu gan rifau a thaenlenni.
Os oes angen i chi sicrhau arian ar gyfer eich prosiect, mae fideo yn offeryn pwerus iawn.
O gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol i weledigaethau 3D ac ymgynghoriadau cyhoeddus, mae cynhyrchiad fideo Cyfryngau Digidol Tantrwm ar gyfer tendrau’n cyflwyno canlyniadau.
Buom yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i sicrhau cyllid i drawsnewid profiad yr ymwelydd yng Nghastell Penrhyn. Chwaraeodd y fideo hon ran allweddol mewn cyflwyniad llwyddiannus a sicrhaodd fwy na miliwn o bunnoedd o gyllid.
Buom hefyd wedi gweithio gyda TechForesight, adran o fewn Imperial College London, i greu cyfres o ffilmiau a oedd yn edrych ar rhai o’r prosiectau ymchwil anhygoel y maent yn eu cynnal. Dangoswyd y ffilmiau hyn i wneuthurwyr polisi byd-eang a swyddogion y llywodraeth yn Fforwm Economaidd y Byd i ddenu cyllid pellach.