Seminarau a Chyfarfodydd
Cyflwyniadau | Cyfarfodydd | Seminarau
Weithiau bydd angen i chi gyfathrebu gwybodaeth bwysig i’ch tîm yn y DU yn ogystal â’r rhanddeiliaid estynedig ar draws y byd. Gallai hynny fod ar ffurf seminar ac o bosibl fideo gynhadledd. Mae hyn yn cyfyngu ar nifer y cyfranogwyr, yn gofyn am osod offer costus ac yn aml llinellau ffôn penodol a drud.
Mae Cyfryngau Digidol Tantrwm yn eich cefnogi chi yn eich seminar neu gyfarfod ac yn medru cael eich neges i gynulleidfa anghyfyngedig. Gallwch chi gael rhyngweithio byw trwy negeseuon testun ac ar y sgrin a hyd yn oed eu bod yn ‘deialu i mewn’ a chymryd rhan.
Gallwch fanteisio ar gyflwyniad a chasglu cysylltiadau e-bost gwerthfawr
Os ydych chi’n cynnal cwrs hyfforddi byw, mae’n bosibl ychwanegu ffurflenni ‘Pay-wall’ a chofrestru e-bost i ddal mwy o’ch cynulleidfa.
Darnau bach
Yn yr un modd, os ydych yn sefydliad addysgol neu’n sefydliad hyfforddi, mae’n syth ymlaen i weld eich digwyddiad byw yn ddi-dâl. Yna, ar ôl y digwyddiad, gellir gweithredu porth taliad er mwyn i fideo ail-weld neu fideo ar alw greu incwm i chi.
Gallwch chi hefyd gymryd y ffilmiau o seminar fyw a’u golygu mewn mwy o ddarnau fwy ‘bite-sized’ o wybodaeth. Gallai hyn eistedd ar unrhyw lwyfan e-ddysgu o’ch dewis.
Gall Cyfryngau Digidol Tantrwm helpu o dan bob amgylchiad a chroesawu’r cyfle i siarad trwy’ch gofynion a’ch uchelgeisiau penodol. Ffoniwch Andrew neu Chris i drafod pethau ymhellach.