Mae sicrhau bod eich staff yn gyson yn datblygu eu sgiliau yn ystyriaeth allweddol wrth redeg unrhyw sefydliad.
Mae fideo yn cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol i wneud hyn. Yn enwedig wrth integreiddio i mewn i system ddysgu ddigidol sy’n defnyddio technegau dysgu cyfun i sicrhau bod yr hyfforddiant yn effeithiol.
Mae Cyfryngau Digidol Tantrwm wedi creu systemau hyfforddi pwrpasol sy’n helpu gyrwyr tacsi i astudio cymhwyster cenedlaethol, lleihau gwastraff yn y diwydiant lletygarwch ac i ddatblygu systemau meddwl yn rheolaeth yn ganol sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus.Rydym yn brofiadol wrth gymryd syniadau cymhleth ac yn eu cysylltu mewn ffyrdd sy’n bleser i’w gwylio ac yn hawdd eu cofio, ond yn fwy na hynny, rydym yn helpu sefydliadau i egnio ac ennyn eu staff trwy eu helpu i wneud eu fideos eu hunain.
Gan weithio gydag ymgynghorwyr rheoli, rydym yn creu profiadau adeiladu tîm hwyl a chofiadwy sy’n darparu canlyniadau.