Cynhyrchiad fideo am Brifysgolion
Hyfforddiant | Datblygu Staff | E-Ddysgu
Cawsom ni y fraint i gweithio gyda rhai o’r sefydliadau academaidd mwyaf anhygoel yn y byd. Mae ein ffilmiau’n eu helpu i ddenu’r myfyrwyr gorau, dod o hyd i bartneriaid corfforaethol a rhannu ffrwyth eu hymchwil gyda’r cyhoedd ehangach.
Mae sefydliadau academaidd yn ymddiried yn y tîm yn Tantrwm
Dylanwadu ar benderfynwyr allweddol: Wnaeth ein gwaith gyda Tech Foresight yn Imperial College London edrych ar rai o’r technolegau sy’n cael eu datblygu sydd â’r potensial i newid y byd. Dangoswyd y gyfres hon o ffilmiau i wneuthurwyr polisi lefel uchel o lywodraethau ar draws y byd yn Fforwm Economaidd y Byd.
Dod â’r gorau a’r mwyaf disglair i’ch sefydliad: Mae Ysgol Feddygol Imperial College yn fyd-enwog am ei rôl mewn ymchwil blaengar. Er mwyn aros ar y brig mae angen iddynt ddenu ymchwilwyr gwych i ymgymryd â’u hastudiaethau ôl-radd, felly fe wnaethom greu ffilmiau a oedd yn proffilio dau fyfyriwr o’r fath ac yn tynnu sylw at y profiad anhygoel yr oeddent yn ei gael yn Imperial.
Rhannwch Eich Gwybodaeth: Cerddorion proffesiynol yn debyg iawn i athletwyr proffesiynol o ran y straen corfforol a meddyliol y maent yn ei roi ar eu cyrff a’r tebygolrwydd cynyddol o anaf sy’n deillio o hyn. Mae Conservatoires gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd Llundain a Trinity Laban wedi bod yn cydweithio â gwyddonwyr chwaraeon i ddatblygu strategaethau ac atal anafiadau. Mae’r rhain wedi’u rhyddhau fel papurau ymchwil gwyddonol, ond er mwyn bod yn effeithiol, roedd angen iddyn nhw fod yn dreuliadwy i gynulleidfa leyg. Dyma lle y daeth ein fideos i mewn. Fe wnaethom greu cyfres o ffilmiau a gymerodd y papurau ymchwil a’u cywasgu fey bydden nhw’n cael eu hamsugno mewn ‘infographics’ 3 munud hawdd.