Ffrydio byw dwyieithog

Cymraeg | Saesneg | Unrhyw Iaith

Mae bod yn seiliedig yng Nghymru yn golygu bod ffrydio byw mewn mwy nag un iaith yn eithaf cyffredin. Mae Cyfryngau Digidol Tantrwm wedi datblygu’r fethodoleg i fanteisio ar yr offer sydd ar gael i ni, gan ffrydio cannoedd o oriau o ddarllediadau dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar y pryd.

Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n wynebu unrhyw ofynion ieithyddol eraill, mae gennym yr arbenigedd i helpu. Mae ein cyfarpar yn gyfoes, gwyddom ein pecynnau meddalwedd o’r tu fewn i’r tu fas ac rydym yn hyderus ym mhob sefyllfa ffrydio.

Mae dwyieithrwydd yn hanfodol yng Nghymru

Mae cyfathrebu dwyieithog yn ofyniad statudol yng Nghymru

Mae gan rai sefydliadau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, rwymedigaeth statudol i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Mae Cyfryngau Digidol Tantrwm yma i’ch helpu i gyfathrebu â’r nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg a’i weld yn gyfle pwysig i gofleidio a manteisio i’r eithaf ar ffrydio dwyieithog.

Gallwn ni helpu gyda chyfieithwyr ar y pryd, cyfieithiad ysgrifenedig, isdeitlo Cymraeg a gorchuddion llais Cymraeg brodorol.

Wrth gwrs, mae ein sgiliau yn y Gymraeg yn golygu ein bod yn gallu gweithredu’r un systemau a thechnoleg ar gyfer unrhyw iaith arall.

Mae yna sgiliau technegol a gofynion caledwedd penodol i ymledu yn ddwyieithog i lwyfannau lluosog ac mae gan Gyfryngau Digidol Tantrwm hanes profedig o ddarparu’r rhain, ar adegau, yn yr amgylchiadau mwyaf anodd.

cyfryngau-digidol-Tantrwm-cwmni-cynhyrchu-fideo-pop-vox-Caerdydd-Llundain-Cymru-Dwyieithog

Gadewch i ni siarad mewn unrhyw iaith y dymunwch.

Scroll to Top

Let's talk

Skip to content