2016 Tantrwm

Am 2016 anhygoel! Beth fydd yn 2017?

Bu’n flwyddyn anhygoel. Sut bynnag rydych chi’n cynllunio pethau, beth bynnag rydych chi’n ei ddychmygu, weithiau mae pethau’n digwydd ac yn gwneud i chi feddwl – wow!

2016 oedd un o’r blynyddoedd hynny. Cliciwch ar y ffilm uchod, mae’n llai na munud o hyd ac mae’n dangos rhai o’r cleientiaid anhygoel yr ydym wedi gweithio gyda hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn bennaf oll, er ein bod am roi gwybod i chi fod Tantrwm yn dal i fod yma, rydyn ni eisiau gweithio gyda chi yn 2017 a gallwch helpu pan fydd angen i chi gyfathrebu neges broffesiynol a chadarn.

Rydym yn gobeithio eich bod wedi’ch hysbrydoli gan y clip a’i fod yn sbarduno syniadau y gallwn weithio gyda chi arni. Rydyn ni eisiau creu’r gorau, gyda’r gorau, tra’n codi gwên, cael hwyl, a darparu cynnyrch .

Mae Tantrwm wedi bod o gwmpas ers 17 mlynedd. Diolchwn ichi am fod yn rhan o’n twf, rhan o’n teulu. Mae llawer ohonoch wedi dod yn ffrindiau. Gwyddom y bydd llawer o’n cwsmeriaid mwy diweddar yn dod yn ffrindiau newydd.

Os oes gennych chi syniadau, prosiectau neu ymholiadau technegol ynghylch ffilm a sut i’w hyrwyddo, yna ffoniwch Andrew.

Scroll to Top
Skip to content