Diogelu
Nid cyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol yn unig yw cadw plant ac oedolion sy’n agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i helpu i gadw’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ddiogel.
Gall sylwi ar arwyddion camfanteisio fod yn her, yn enwedig i staff sy’n gweithio gyda’r cyhoedd. Gall hyn fod oherwydd efallai nad ydyn nhw’n adnabod yr unigolyn yn bersonol ac yn gorfod gwneud dyfarniadau yn y fan a’r lle.Mae hyfforddiant diogelu mor bwysig am y rhesymau hon. Gall un penderfyniad anghywir gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl.Er mwyn helpu, wnaeth Cyngor RCT yn agos gyda Tantrwm.
Gwnaethom ddatblygu adnoddau hyfforddi a wnaeth paratoi pobl i nodi arwyddion yn well. Fel ganlyniad, gallai’r staff a’r gweithwyr nodi arwyddion posibl o gam-drin yn gywir. Roedd y gyfres o ffilmiau byr ar ffurf dramâu bach. Maent yn cael eu sgrinio mewn ac wedi’u cynllunio i ysgogi trafodaeth ymhlith y grŵp.
Llywddiant
Yn allweddol i lwyddiant y ffilmiau oedd eu fod yn naturiol ac yn gredadwy iawn. Roedd hyn ar y blaen o’n broses trwy gydol ffilmio; o sgriptio i gastio, cyfeiriad i olygu. Wnaethon ni osod actorion mewn sefyllfaoedd wahanol, a geision ni gadael i’r gynulleidfa weld dim ond yr hyn a welodd yr aelod o staff yn y ffilm. Yna, gallai’r hyfforddeion drafod yr hyn yr oeddent yn meddwl oedd yn digwydd a sut orau i ddelio ag ef.
Wnaeth Tantrwm gweithio ar y ffilmiau hyn gyda’r tîm Diogelu am dros 15 mlynedd. Roedd ychwanegu fideos newydd a diweddaru hen rai yn cadw’r ffilmiau’n gyfoes â deddfwriaeth a thechnoleg. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu helpu i gadw plant ac oedolion agored i niwed yn ddiogel.